New Pathways

Ni yw darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf Cymru, gyda 30 mlynedd o brofiad o gyflwyno cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol.

Fel sefydliad elusennol, rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau argyfwng, eiriolaeth, lles a chwnsela arbenigol, yn rhad ac am ddim. A ninnau’n sefydliad blaenllaw yn ein maes, rydym yn uchel ein parch ar draws y DU. Rydym yn cynorthwyo bron i 4,000 o bobl bob blwyddyn.

Y tu hwnt i hynny, rydym yn defnyddio’n profiad a’n harbenigedd i hyfforddi ac addysgu pobl eraill am effaith amrywiol trais rhywiol a cham-drin rhywiol, ac yn defnyddio’n llais i eiriol ar ran pobl sy’n aml yn cael eu distewi gan stigma.

Mae ein tîm ymroddgar o 150 a mwy o staff a gwirfoddolwyr yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth rhagorol sy’n bodloni eu hanghenion; maen nhw’n haeddu dim llai.

Darparwyd gan New Pathways Gwasanaeth ar gael yn Merthyr Tydfil, Merthyr Tudful Cyngor ac eiriolaeth
Willow House, 11 Church Street, Merthyr Tydfil, CF47 0BS
01685 379310 enquires@newpathways.org.uk http://www.newpathways.org.uk

Gwasanaeth Lles
Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cymorth 1 i 1 gyda gweithiwr cymorth trais rhywiol hyfforddedig. Gallai’r cymorth hwn fod yn lle cwnsela, neu gallai helpu fel rhan o’r paratoi ar gyfer cwnsela.
Mae’n wasan...