Cwmpas

Asiantaeth ddatblygu yw Cwmpas sy’n gweithio i greu newid er gwell, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Rydym yn gwmni cydweithredol sy’n canolbwyntio ar greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf. Nid yw’r system economaidd bresennol yn llwyddo i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu ein cymunedau heddiw, o’r newid yn yr hinsawdd i galedi economaidd… ac mae’r pandemig Covid-19 wedi gwneud llawer o’r problemau hyn yn waeth. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

Fe allai – ac fe ddylai – ein heconomi a’n cymdeithas weithio er budd pobl a’r blaned. Cenhadaeth Cwmpas, a sefydlwyd ym 1982 fel Cwmpas, yw newid y ffordd y mae ein heconomi a’n cymdeithas yn gweithio.