Llogi cyfleusterau

Darparwyd gan
Morlan

Mae gan Morlan ystafelloedd i'w llogi sy'n addas ar gyfer amryw o weithgareddau - o gyfweliadau bach i bwyllgorau mawr, o gyngherddau, dramâu a ffilmiau i ffeiriau llyfrau, nosweithiau cymdeithasol a dosbarthiadau dawns, ynghyd â chynadleddau, cyfarfodydd cyhoeddus, cyrsiau hyfforddi, gwleddoedd priodas a phob math o ddigwyddiadau eraill.



Gellir llogi ystafell am gyn lleied ag awr neu am gyfnodau hirach - bore, prynhawn neu nos - ar delerau cystadleuol iawn, a cheir telerau gostyngol i fudiadau elusennol, cymunedol a chrefyddol, ac ar gyfer digwyddiadau sy'n cyd-fynd ag amcanion Morlan

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig