Rhaglen digwyddiadau

Darparwyd gan
Morlan

Darparwyd gan
Morlan

Lleoliad

Cyfeiriad post

Morfa Mawr / Queen's Road Aberystwyth SY232HH

Cyswllt

01970617996

Cyfleusterau

  • Toilets
  • Kitchen
  • Refreshment
  • Dance floor
  • Equipment
  • Parking
  • Disabled access
  • Hearing loop
  • Disabled toilet
  • Conference
  • PA system

Canolfan yw Morlan sydd â'r nod o hybu bywyd cymunedol - yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Fe'i sefydlwyd yn Ebrill 2005 i greu pont rhwng yr eglwys a'r gymdeithas o'i chwmpas ac mae wedi datblygu yn ganolfan bwysig yn yr ardal.



Ond mae Morlan yn llawer mwy nag adeilad ...



... mae'n fan cyfarfod - i greu a thrafod, i wrando a dysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu - tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy'n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.



Ac mae Morlan yn cynnal ei rhaglen ei hun o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn - arddangosfeydd celf, dramâu, cyngherddau, nosweithiau llenyddol, digwyddiadau cymdeithasol a thrafodaethau ynghyd â gweithgareddau blynyddol megis Darlith Flynyddol a Gŵyl Lyfrau. Mae'r holl weithgarwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau - rhai cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol, ac mae rhai yn tynnu sylw at faterion megis Diwrnod Cofio'r Holocost neu Wythnos Un Byd.