Nod Llyfrgell Gymunedol y Rhws yw ysbrydoli pobl ac annog ymdeimlad o le trwy’r gwasanaeth llyfrgell gyda llyfrau, gwybodaeth, dysgu, mynediad ar-lein, cerddoriaeth, ffilm a gwasanaethau i bob preswylydd mewn gofod sy’n dod â’r gymuned leol ynghyd.
Mae gan aelodau llyfrgell y Fro fynediad at dros 250,000 o lyfrau, 7,000 o lyfrau llafar, mynediad am ddim i'r rhyngrwyd a llu o wasanaethau gwych eraill.