Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Gwirfoddolwyr, gweithredu gwirfoddol a chymunedol a’r trydydd sector sydd wrth graidd creu cymunedau mwy cynaliadwy a chydnerth.

O ganlyniad mae angen cymorth a chefnogaeth i’r sector fwyfwy heddiw nag erioed fel y medrwn ni ymgysylltu, galluogi a grymuso unigolion, grwpiau a mudiadau i gyflawni eu potensial a photensial y cymunedau y maen nhw’n rhan ohonyn nhw.
Dyma lle mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn berthnasol.

Fel elusen yn gweithredu ers 1996, ein haelodau sydd wrth graidd yr hyn rydym ni’n ei wneud.
Ein cenhadaeth yw darparu cymorth rhagorol i wirfoddolwyr, mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a’r trydydd sector a bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych.

Nod ein tîm bach ymroddedig yw cael gymaint o effaith ag y bo modd gyda’r adnoddau sydd gennym ni. ​
Fel elusen rydym ni’n annibynnol o’r llywodraeth (lleol a chenedlaethol) a sefydliadau sector cyhoeddus ac felly byddwn yn rhoi anghenion a buddiannau #GwirfoddolwyrSirDdinbych a’r trydydd sector yn Sir Ddinbych yn gyntaf bob amser.
Golyga hyn y byddwn ni’n herio ein partneriaid sector cyhoeddus a’r llywodraeth o dro i dro i rannu grym ac adnoddau, fel ein bod ni’n cael ein galluogi i fod yn rhan o’r datrysiad fel partneriaid cydradd a werthfawrogir.

Mae ein gwasanaeth Cymorth i’r Sector yn defnyddio adnoddau’n ddwys, ond rydym ni’n buddsoddi ynddo gan ein bod ni’n credu mewn darparu cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, elusennau, a chwmnïau menter gymdeithasol a budd cymunedol ac mai dyma’r allwedd i greu cymunedau cydnerth.

Rydym ni’n darparu cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i wirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymuned a mudiadau’r trydydd sector fel rhan o’r buddion i aelodau ac rydym ni am gadw’r gwasanaeth mor hygyrch ag y medrwn, a chyrraedd gymaint o bobl ag y bo modd. Dyna pam ein bod ni’n cynnig aelodaeth AM DDIM i wirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a mudiadau trydydd sector sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych gydag incwm blynyddol o lai na £50,000. Er mwyn darllen am ein Strwythur Ffioedd ar sail trosiant a’n gwahanol fathau o randdeiliaid cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Yn rhan o hyn rydym ni’n gofyn i’n partneriaid – sefydliadau sector cyhoeddus a busnesau sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych – i dalu ychydig mwy. Credwn bod y dull yma’n decach – ac mae’n caniatáu i ni roi’r cymorth a’r gefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Ni fyddem yn medru bodoli heb gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru.

Felly, wrth edrych i’r dyfodol, mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein mentrau ein hunain, codi rhagor o arian a sicrhau mwy o gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau trydydd sector a busnesau fel y medrwn ni wella ein cynaliadwyedd ein hunain a pharhau i ddarparu cymorth rhagorol i’r sector.

Os ydych chi’n hoffi’r hyn rydym ni’n geisio ei wneud, ymunwch gyda ni i greu ymgyrch dros newid yn Sir Ddinbych.

Darparwyd gan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Gwasanaeth ar gael yn Ruthin, Sir Ddinbych Cyllido Gwirfoddoli Cymuned
Naylor Leyland Centre, Well Street, Ruthin, LL15 1AF
01824702441 engagement@dvsc.co.uk https://www.dvsc.co.uk/home

DVSC is a membership based charity.

Our mission is to build resilient communities through voluntary action and social enterprise, providing excellent support for our members and being an influential voice in Denbighshire...