Sefydlwyd Canolfan Morlan gan Gapel y Morfa, yr eglwys Bresbyteraidd leol, yn 2005 gyda’r bwriad o hybu bywyd cymunedol – yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Y mae’n anelu at fod yn bont rhwng yr eglwys a’r gymdeithas o’i chwmpas ac mae wedi datblygu’n adnodd pwysig yn yr ardal.
Ond mae Morlan yn llawer mwy nag adeilad …
… mae’n fan cyfarfod – i greu a thrafod, i wrando a dysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu … tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy’n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.
Gellir llogi ystafelloedd Morlan – neuadd fawr, dwy ystafell bwyllgor a bar coffi – ar gyfer pob math o weithgareddau.
Mae Morlan ei hun hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn a dyma sy’n bennaf gyfrifol am gyflawni gweledigaeth y ganolfan.
O ran gweinyddiaeth ac ethos, canolfan Gymraeg ydyw ond mae’n gwasanaethu cymuned ddwyieithog; mae hefyd yn ganolfan Fasnach Deg ymroddedig.
Mae gan Morlan neuadd fawr a dwy ystafell bwyllgor i'w llogi.
Gellir llogi ystafell am gyn lleied ag awr neu am gyfnodau hirach - bore, prynhawn neu nos - ar delerau cystadleuol iawn, a cheir telerau gostyngol i fudiadau elus...
Mae gan Morlan ystafelloedd i'w llogi sy'n addas ar gyfer amryw o weithgareddau - o gyfweliadau bach i bwyllgorau mawr, o gyngherddau, dramâu a ffilmiau i ffeiriau llyfrau, nosweithiau cymdeithasol a dosbarthiadau dawns, yngh...
Canolfan yw Morlan sydd â'r nod o hybu bywyd cymunedol - yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Fe'i sefydlwyd yn Ebrill 2005 i greu pont rhwng yr eglwys a'r gymdeithas o'i chwmpas ac mae wedi datblygu yn ganol...
Mae Morlan yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn - trafodaethau ac anerchiadau, dramau a chyflwyniadau, arddangosfeydd celf a mwy. Ceir manylion llawn ar ein gwefan ble gellir nodi eich manylion er mwyn derbyn e...