Cwnsela a Lles

Darparwyd gan
New Pathways

Gwasanaeth Lles
Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cymorth 1 i 1 gyda gweithiwr cymorth trais rhywiol hyfforddedig. Gallai’r cymorth hwn fod yn lle cwnsela, neu gallai helpu fel rhan o’r paratoi ar gyfer cwnsela.
Mae’n wasanaeth peidio â datgelu sy’n cynnig:

gwasanaeth byr cyn-cwnsela sy’n paratoi ar gyfer cwnsela ac sy’n helpu cleientiaid i gael y mwyaf o gwnsela
pecyn cymorth hirach, manwl sy’n ddewis amgen i gwnsela ac a all helpu cleientiaid i ddelio ag amrywiaeth eang o faterion y gallent fod yn eu profi.
Hefyd, rydym yn cynnig cymorth ymarferol, er enghraifft gyda hawliadau tai neu anabledd, ac yn cysylltu â phobl ar eich rhan, fel gweithwyr iechyd proffesiynol.

Gwasanaethau Cwnsela
Rydym wedi gweithio yn y sector trais rhywiol ers 1993 ac mae gennym brofiad sylweddol o weithio ym maes trawma rhywiol. Mae ein holl gwnselwyr yn gymwysedig ac yn gofrestredig, mae ganddynt brofiad o weithio gyda thrawma ac maent yn cael hyfforddiant ychwanegol ar weithio gyda thrais rhywiol. Rydym yn cynnig cwnsela i oedolion a phlant 3 oed a hŷn. Ar gyfer gwasanaethau plant, cliciwch yma.
Yn nodweddiadol, mae sesiynau cwnsela yn cael eu cynnal yn wythnosol, ar yr un pryd, am awr yr wythnos. Gallwn gynnig apwyntiadau ar amrywiaeth o adegau, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau. Rydym yn cynnig cwnsela wyneb yn wyneb a thros y ffôn neu trwy alwad fideo (skype, zoom, MS Teams, WhatsApp ac ati). Mae cwnsela wyneb yn wyneb ar gael yn ein lleoliadau ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru.

Mae ein gwasanaeth cwnsela wedi bod yn effeithiol ac yn fuddiol tu hwnt ar gyfer adfer yn dilyn trawma rhywiol. Mae gan bawb anghenion a phroblemau unigol i’w goresgyn, ond dyma rai o’r materion cyffredin rydym ni’n helpu pobl gyda nhw:

Hunan-barch isel
Euogrwydd a chywilydd
Pryder ac ofn
Symptomau anhwylder straen wedi tramwa (PTSD) (fel ôl-fflachiau, datgysylltiad, hunllefau ac ati)
Iselder
Hunan-niweidio
Meddyliau a theimladau hunanladdol
Dicter
Rydym ar agor i bawb, o bob oedran, rhywedd, cefndir cymdeithasol, cefndir ethnig, crefydd a chred, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol.

Nid yw rhai pobl yn gwybod bod gwasanaethau trais rhywiol yn gallu cefnogi dynion neu bobl anneuaidd, ond mae ein gwasanaethau ar gael i bawb.

Os ydych wedi ddioddef trais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol ac rydych yn wrywaidd neu’n anneuaidd, gallwch gael yr union un lefel o wasanaeth a chymorth gan Llwybrau Newydd a byddem yn eich annog chi i siarad â ni.

Amseroedd agor

Monday - Thursday: 9am - 5pm↵↵Friday: 9am - 4:30pm

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig