Mae Luv2MeetU yn wasanaeth cyfeillgarwch a pherthynas i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy'n byw yn ardaloedd Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.
Bydd Luv2MeetU yn eich helpu i fynd allan a rhoi cynnig ar bethau a lleoedd newydd. Bydd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a datblygu perthnasoedd os hoffech chi.
Gallai eich helpu i fod yn fwy egnïol ac iach drwy ymuno ag ystod o weithgareddau hamdden fel cerdded, sinema, bowlio a nofio.
Mae'r digwyddiadau yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd gan ein haelodau. Gallwch fod yn rhan o helpu i gynllunio gweithgareddau.