Nodau Ffair Iechyd MEC yw darparu gwybodaeth iechyd a lles hygyrch a gwiriadau iechyd i aelodau o boblogaeth ethnig amrywiol De Cymru. Yr amcanion yw galluogi aelodau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig amrywiol i gael mynediad at wybodaeth briodol am eu hiechyd a'u lles. Mae hefyd i roi cyfle i’r sector iechyd gwirfoddol, statudol (a chyhoeddus) hyrwyddo mentrau a gwasanaethau i gymunedau targed y digwyddiadau. Bydd y gwirfoddolwyr yn gyfrifol am lawer o rolau gwahanol yn seiliedig ar eu diddordeb, ac yn ceisio ffitio’r rôl i’r unigolyn. Bydd dyletswyddau'n cynnwys; cynorthwyo stondinwyr cyn ac yn ystod y digwyddiad, cynorthwyo gyda sefydlu’r lleoliad, cyfarfod a chyfarch ymwelwyr a chyfeirio’r unigolion at y gweithdai, cyflwyniadau a sesiynau blasu amrywiol yn ystod y digwyddiad.