Rydyn ni'n rhedeg grwpiau'n hwyl a chyfeillgar sy'n rhoi ffocws ar weithgareddau cadw'n heini a chyfle i gyfarfod eraill yn eich cymuned.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd hamddenol efo pawb yn dod at ei gilydd i fwynhau paned a lluniaeth ysgafn ar y diwedd.
Mae’r grwpiau yma yn rhad ac am ddim a, phan mae gennym ddigon o wirfoddolwyr sy’n gyrru, bydd lifftiau ar gael.