Gwneud digartrefedd i bobl ifanc ‘yn brin, yn fyr ac anghylchol’,
ac atal unigrwydd.
Mae Tîm o Amgylch y Denantiaeth (TAtT) yn wasanaeth arloesol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddarparu gwasanaeth ar ledled Gogledd Cymru i bobl ifanc sydd a phrofiad o fod mewn gofal ac sy’n gwynebu anawsterau â’u cartref a / neu sydd heb gartref.
Bydd TAtT yn helpu'r pobl ifanc i gynyddu eu sgiliau, gwybodaeth a’r rhwydweithiau cymorth y mae eu hangen i allu aros yn eu cartref neu i gael cartref nawr ac yn y dyfodol. Yn benodol, bydd y gwasanaeth yn targedu pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd:
• Mewn cartref newydd • Wedi colli eu cartref
• Ar drothwy golli eu cartref • Heb unman i alw yn gartref
Cynigion Allweddol:
Cydgysylltu gwasanaethau a gwaith allweddol
Eiriolaeth tai
Mentora efo'r nod o integreiddio pobl ifanc efo gwasanaethau a gweithgareddau lleol
Cwnsela
Cyfarfodydd Grwp Teuluo yn dilyn Dulliau Adferol gan gynnwys teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol er mwyn siarad, cynllunio a gwneud penderfyniadau
Datrys gwrthdaro efo landlordiaid neu gymdogion
Ymyriadau eraill a nodir gan y person ifanc
Monday - Thursday 9am-5pm Dydd Llun i Ddydd Iau 9yb-5yp ↵↵Friday 9am-4.30pm Dydd Gwener 9yb-4:30yp
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig