Amdanom ni
infoengine yw'r cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sy'n cwmpasu Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.
Ein nod yw tynnu sylw at y gwasanaethau gwych ac amrywiol sydd ar gael i chi yn eich cymuned ac i ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol am bob gwasanaeth fel y gallwch wneud dewis gwybodus.
Mae pob sefydliad a grŵp yn gyfrifol am eu cofnod ar infoengine - gweler ein Telerau ac Amodau neu darllenwch ein hadran Cofrestru Pryderon.
Darperir infoengine gan y partneriaid canlynol:
- PAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
- CAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion
- CAVS - Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
- PAVS - Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
- Cyngor Sir Powys
- CGGA - Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe – sy’n cynnwys gwybodaeth ar Abertawe sy’n bosib diolch i gyllid gan gwmni Western Bay.
- BAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr - sy’n cynnwys gwybodaeth ar Ben-y-bont ar Ogwr sy’n bosib diolch i gyllid gan gwmni Western Bay.
- CGGCNPT - Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot - sy’n cynnwys gwybodaeth ar Gastell-nedd Port Talbot sy’n bosib diolch i gyllid gan gwmni Western Bay.
Rheolir infoengine o ddydd i ddydd gan dîm o swyddogion ym mhob Cyngor Gwirfoddol Sirol. Hefyd mae Bwrdd Rheoli Prosiect sy’n cynnwys partneriaid statudol allweddol.
Hyrwyddo infoengine
Rydym yn annog hyrwyddo infoengine ar lefel ranbarthol a gallwn anfon ein logo a deunyddiau wedi'u brandio at unrhyw sefydliad at y diben hwn. Gallwn hefyd drefnu arddangosiadau lleol ar gyfer timau a grwpiau staff ar draws y pedair sir a gallwn fynychu eich digwyddiad gydag arddangosfa hyrwyddo.
Os hoffech drefnu unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â ni.
Cofiwch, gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Drydar - dilynwch ni nawr @infoengine1
Cofrestru pryderon
Mae pob sefydliad a grŵp yn gyfrifol am eu cofnod ar infoengine, am fwy o wybodaeth, darllenwch yr adran ‘Ymwadiad’.
Rydym yn annog unrhyw un sy'n dod ar draws unrhyw beth nad ydynt yn fodlon yn ei gylch ar infoengine i roi gwybod am hyn i ni – gall fod yn fanylion anghywir neu gynnwys amhriodol. Byddwn yn delio gydag unrhyw gynnwys amhriodol neu sarhaus a ddygir at ein sylw fel mater o frys. .