Telerau ac Amodau

Darperir cyfeiriadur infoengine at ddiben gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, a’r sefydliadau/grwpiau unigol sy’n ei gynnal. Mae unrhyw un sy’n dibynnu ar yr wybodaeth yma’n gwneud hynny ar ei fenter ei hun.

Mae cael mynediad at a defnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym y tro cyntaf fyddwch yn ei defnyddio.


Darparu Gwybodaeth


Mae’r cyfeiriadur hwn yn darparu gwybodaeth a roddwyd gan sefydliadau trydydd parti, er enghraifft, mudiadau cymunedol eu hunain. Nid yw partneriaid *infoengine yn cynnig unrhyw gynrychiolaeth na gwarant o ran cywirdeb yr wybodaeth a ddarperir yn y cyfeiriadur.  Ni fydd partneriaid  *infoengine yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed ar ran y defnyddiwr sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon, nac mewn perthynas ag unrhyw nwyddau neu wasanaethau a brynir gan unrhyw ddefnyddiwr gan unrhyw sefydliad a restrir ar y wefan hon.

Nid yw’r manylion a gedwir am sefydliad yn golygu fod partneriaid *infoengine yn ategu’r sefydliad hwnnw neu ei wasanaethau. Nid yw dolen at wefan allanol yn golygu fod partneriaid *infoengine yn ategu’r wefan honno, ac nid ydynt yn gyfrifol nac yn atebol mewn unrhyw ffordd am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau allanol.


Gwiriadau Cefndir


Nid yw partneriaid infoengine wedi cynnal gwiriadau cefndir na, er enghraifft gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn erbyn y darparwyr a restrir ar gyfeiriadur infoengine. Byddem yn cynghori defnyddwyr i ddilysu a gwneud eu gwiriadau eu hunain cyn trefnu gwasanaethau gydag unrhyw un o’r gwasanaethau a restrir ar InfoEngine.


Firysau, Diffyg Argaeledd ac Awdurdod


Byddem yn argymell rhedeg rhaglen gwrthfirysau ar unrhyw ddeunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Ni fedrwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu niwed i’r data ar eich system gyfrifiadurol sy’n digwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hone.

Ni fyddwn yn atebol os am unrhyw reswm, nid yw’r wefan ar gael unrhyw bryd neu am unrhyw gyfnod, a chedwir yr hawl i dynnu nôl neu ddiwygio’r gwasanaeth a ddarperir ar y wefan heb roi rhybudd.

Deddfau Cymru sy’n llywodraethu ac yn penderfynu pob mater cyfreithiol sy’n deillio o neu oherwydd defnydd sy’n gysylltiedig â gwefan infoengine. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o’r Telerau ac Amodau hyn yn destun awdurdod llysoedd Cymru.


Sefydliadau sy’n cofrestru ar infoengine


Mae pob sefydliad unigol sy’n cofrestru ar infoengine yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth a gyhoeddir.  Os byddwch yn cofrestru’ch sefydliad, mae’n rhaid sicrhau fod yr holl ddata a ddarperir yn gywir ac mae’n rhaid ei ddiweddaru wrth a phan fyddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Gellir gwneud hyn drwy fewngofnodi.

Byddwch yn derbyn hysbysiad awtomatig bob chwe mis i ddiweddaru’r wybodaeth, er mwyn gwirio a chadarnhau fod manylion eich gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol.  Os na fyddwch yn ymateb i’r hysbysiadau hyn, byddwn yn defnyddio manylion cyswllt eraill a roddwyd gennych yn ystod y broses gofrestru i gadarnhau a yw’ch sefydliad yn dymuno parhau i gofrestru ar infoengine.  

Os nad ydych yn dymuno parhau â’r cofrestriad, byddwn yn dileu’r holl fanylion a ddarparwyd yn ystod y broses gofrestru. Noder: byddwch yn gallu dileu eich sefydliad o’r system ar unrhyw adeg, naill ai drwy fewngofnodi neu drwy gysylltu â: infoengine@pavo.org.uk.   Am fanylion pellach, gweler Hysbysiad Preifatrwydd infoengine