Cymorth

Eisiau help o hyd?

Cysylltwch â thîm infoengine:

Ffôn: 01597 822191

Ebost: infoengine@pavo.org.uk

Wrth ffonio, dylech ddweud pam eich bod angen cymorth gydag infoengine. Rydym yn monitro’r cyfrif ebost bob dydd.

Cwestiynau Cyffredin

Sut gallaf gofrestru fy mudiad ar infoengine?

Er mwyn rhestru eich mudiad, neu unrhyw fudiad sy’n gysylltiedig â chi, ar infoengine, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru.

Sut ydych chi’n sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol?

Mae infoengine yn cynnwys cyfleuster diweddaru awtomatig sy’n ganolog i ddyluniad y wefan,  Mae’r system yn e-bostio pob mudiad yn y cyfeirlyfr yn rheolaidd, ac maen’n rhaid i’r mudiad hwnnw wirio fod eu manylion yn gywir er mwyn gallu parhau yn y cyfeiriadur. Caiff manylion mudiadau sy’n methu ymateb i geisiadau gan y system eu cuddio nes iddynt ymateb i’r cais i wirio eu manylion.

Ydych chi’n gwirio neu’n dilysu’r gwasanaethau a gynigir gan fudiadau ar y rhestr?

Nac ydym; mae’r mudiadau’n cofrestru eu hunain ar infoengine a nhw sy’n darparu’r wybodaeth gyda phob ewyllys da fel rhan o wasanaeth cyfeirio. Nid yw infoengine yn ategu unrhyw wasanaeth a restrir ar y safle, ac nid yw’n gwarantu cywirdeb yr wybodaeth a roddwyd.

Pam na allaf weld manylion fy mudiad ar y rhestr?

Gall infoengine ‘guddio’ manylion unrhyw sefydliad os bydd un o’r canlynol yn digwydd:

  • Mae ceisiadau niferus i wirio / diweddaru manylion y mudiad yn cael eu hanwybyddu neu heb eu gweithredu
  • Os taw’r unig ddull i gysylltu â grŵp a gynigiwyd yw’r URL, bydd y grŵp hwnnw ond yn ‘weladwy’ ar y system ar ôl dilysu’r URL