Rhowch y gallu i'ch defnyddwyr chwilio'r cyfeiriadur infoengine o wasanaethau'r trydydd sector ledled Cymru ar eich gwefan!
Rydyn ni nawr yn darparu ychydig o gôd y gallwch ei gopïo a'i gludo i mewn i'ch tudalen we, gan ddangos chwiliad infoengine a'i ganlyniadau in situ.
Bydd y darn bach o gôd yn cynhyrchu popeth yn ei le. Felly, unwaith y bydd y côd wedi'i gludo ar eich ochr, gwnawn y gweddill.
Sut mae'r Teclyn yn edrych
Dyma sut y bydd y chwilio a'r canlyniadau yn edrych. Mae hwn yn Fewnosod Chwiliad swyddogaethol llawn ac yn dangos sut y bydd yn perfformio ar eich tudalen.
Côd mewnosod ar gyfer y safle
I gael y cyfeiriadur infoengine ar eich safle, copïwch y côd isod a chael eich datblygwr neu rywun technegol i'w gludo yn eich côd safleoedd. Gallai hyn fod yn dudalen galed neu System Rheoli Cynnwys (CMS).
Copïwch y côd hwn er mwyn i Chwiliad infoegnine a chanlyniadau ymddangos yn Saesneg
<script src="https://en.infoengine.cymru/build/js/searchwidget.js?v=1590487040" type="text/javascript"></script> <div id="infoengine-search-widget" data-lang="en"></div>
Copïwch y côd hwn er mwyn i Chwiliiad infoegnine a chanlyniadau ymddangos yn Gymraeg lle mae'r gwasanaeth wedi darparu'r cyfieithiadau
<script src="https://en.infoengine.cymru/build/js/searchwidget.js?v=1590487040" type="text/javascript"></script> <div id="infoengine-search-widget" data-lang="cy"></div>
Ymgorffori cymorth a chyngor
Mae pob gwefan yn wahanol ond dyma ganllaw cyffredinol ar gyfer pasio i mewn i System Rheoli Cynnwys (CMS). Enghraifft o lwyfan CMS fyddai Wordpress neu Drupal.
Os oes templed neu ardal cynnwys addasadwy ar eich tudalen, ewch i'r ardal destun (WYSIWYG) a'i droi i'r modd HTML. Yna gludwch y côd rydych chi'n ei weld uchod yn ei le a'i arbed.
Bydd yr ardal chwilio a'r canlyniadau yn cyfateb i faint y cynhwysydd y mae'n ei gludo o fewn. Felly, gall maint yr ymgorffori gael ei reoli gan yr ardal sy'n ei gynnwys. Gallai hyn fod yn golofn led llawn neu golofn ochr lai ar eich tudalen.
Mae'n well bob amser ceisio rhoi cynnig ar fersiwn prawf neu heb ei gyhoeddi o'ch tudalen cyn cyhoeddi neu lansio ar Fyw.
Os nad oes gennych fynediad i CMS, yna bydd eich datblygwr yn gallu gludo'r côd hwn yn eich dewis ardal ar y safle.
Nid oes angen gosodiad a bydd y côd yn dechrau gweithio ar unwaith. Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch defnyddio'r teclyn infoengine ar eich gwefan.
Anfonwch e-bost atom yn: infoengine@pavo.org.uk