Mae'r cynllun hamdden egnïol i bobl dros 60 oed wedi cael ei gyflwyno ledled Cymru i annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl sydd dros 60 oed. Mae Cyngor Sir Penfro wedi penodi Swyddog Hamdden Egnïol i Bobl dros 60 Oed a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno’r cynllun hwn ar draws ei gyfleusterau Hamdden Sir Benfro, ynghyd â threfnu a chyflwyno gweithgareddau gyda'n tîm a phartneriaid allanol.
Mae'r cynllun hwn wedi'i ariannu gan Chwaraeon Cymru, sydd wedi buddsoddi £1.3 miliwn i alluogi pobl sydd dros 60 oed yng Nghymru i fyw bywydau gwell, hwy a hapusach drwy wella'u lefelau gweithgarwch corfforol, eu hyder, eu cryfder a'u cydbwysedd. Ledled Sir Benfro, rydym wedi brandio'n cynllun o dan yr enw ‘Heini am Oes’.
Please contact your nearest Pembrokeshire Leisure facility for more information.