Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Tîm Un Pwynt Mynediad Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Tîm Un Pwynt Mynediad Oedolion yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac maent yn derbyn atgyfeiriadau drwy Cysylltwch â Ni, CBS Wrecsam, gan unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr neu gyfeillion a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, Meddygon, Ysbytai, Nyrsys Ardal, Tai ac Ati.
Byddwn yn cynnal asesiad drwy gael sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ gyda chi, dros y ffôn fel arfer, lle byddwn yn trafod eich anghenion a’ch anawsterau posibl ac yn eich cynorthwyo i nodi datrysiadau yn y gymuned neu’ch cynghori y byddwn yn cyflawni asesiad llawn o’ch anghenion gofal. Yn dilyn ein cyswllt cyntaf a’r sgwrs Beth sy’n Bwysig, efallai y byddwn yn anfon atgyfeiriad at dîm arbenigol o fewn yr awdurdod lleol, ond bydd hyn yn cael ei drafod a’i egluro’n llawn i chi os mai dyma fydd yr achos.