Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Advocacy After Fatal Domestic Abuse

Beth rydym yn ei wneud:
Ein blaenoriaeth yw eirioli dros deuluoedd sy’n mynd drwy
brofedigaeth ar ôl lladdiad neu hunanladdiad domestig.
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:
• Gwrando arnoch chi gyda dealltwriaeth a thosturi.
• Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
• Cynnig Eiriolwyr arbenigol a medrus.
• Defnyddio’r arbenigedd hwnnw i eirioli drosoch chi
yn ystod adolygiadau lladdiad domestig, cwestau,
adolygiadau achosion difrifol, adolygiadau iechyd meddwl,
ac ymchwiliadau tebyg.
• Dod â theuluoedd at ei gilydd er mwyn rhannu eu stori
ac elwa ar gefnogaeth gan gymheiriaid.
Mae ein gwasanaeth yn annibynnol, am ddim, ac wedi
ei arwain gennych chi.