Mae ein gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol (IPA) am ddim yn darparu cymorth eiriolaeth i helpu pobl i ddeall a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn cynnig eiriolaeth un i un i gefnogi unigolion i ddysgu am eu hawliau, cymryd rhan mewn asesiadau gan wasanaethau cymdeithasol, cynllunio a diweddaru gofal a chymorth. Rydym hefyd yn cefnogi pobl drwy weithdrefnau diogelu. Mae ein heiriolwyr yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fynegi eu barn.