Mae Cynghrair Henoed Cymru yn gynghrair o 26 o sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol, sy’n ymroddedig i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r fframweithiau deddfwriaethol, polisi ac adnoddau, a fydd yn gwella bywydau pobl hŷn. Ar y cyd, mae gan y sefydliadau
sy’n aelodau o Gynghrair Henoed Cymru wybodaeth helaeth ynghylch datblygu a chyflwyno gwasanaethau, ac maent yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl hŷn ledled Cymru. Mae aelodau yn gweithredu ar lefel strategol, yn ogystal â lefel weithredol, ac mae nifer ohonynt yn seiliedig ar aelodaeth.