Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ydy llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a phobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad ar gyfer, ac arweinir gan, pobl gydag anableddau dysgu. Mae’n unigryw yng Nghymru gan mai dyma’r unig sefydliad cenedlaethol arweinir gan aelodau sydd yn cynrychioli lleisiau dynion a merched gydag anabledd dysgu.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn cael ei lywio gan Gyngor Cenedlaethol o aelodau, sydd yn cael eu hethol ar lefel lleol drwy’r 22 ardal awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae’r Cyngor Cenedlaethol yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys fel dinasyddion gweithgar yng nghymdeithas Cymraeg.
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ydy llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a holl bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae’n rhannu ymwybyddiaeth a gwybodaeth i gyflawni hawliau cyfartal a delwedd bositif.