Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

Lleoliad

Visitable Address

Five Mile Lane Barry

Cyfeiriad post

Five Mile Lane Barry CF62 3AS

Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn noddfa yng nghefn gwlad i bawb ei mwynhau. Fel elusen gofrestredig, credwn na ddylai unrhyw un gael ei eithrio o gymdeithas. Mae gennym hanes hir a balch o ddarparu cefnogaeth therapiwtig i bobl ddifreintiedig a bregus mewn lleoliad Fferm.

Yn ystod y tymor rydym yn cynnal rhaglen ar gyfer pobl ifanc sy'n ffeindio hi'n anodd mewn addysg efallai oherwydd eu bod wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod neu wedi cael eu datgan ag anhwylderau niwroddatblygiadol fel ADHD neu awtistiaeth. Heb y math cywir o ofal a chefnogaeth, mae'r grŵp bregus hwn yn mynd yn oedolyn heb y sgiliau bywyd sydd eu hangen ar bobl i ymdopi heb sôn am lwyddo.

Rydym hefyd yn ymestyn ein hamgylchedd gofalgar a maethlon i oedolion ag anableddau dysgu ac rydym yn agored i'r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn. Gyda theithiau cerdded coetir, anifeiliaid i'w gweld, ardaloedd chwarae a chaffi mae yna ddigon i'w wneud a'i fwynhau.