Sesiwn greadigol a chyfeillgar wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu. Dan arweiniad yr hwyluswyr profiadol Dean a Kelly, mae’r grŵp yn cynnig gofod diogel a chefnogol i roi cynnig ar weithgareddau celf a chrefft amrywiol ar eich cyflymder eich hun. Mae pob sesiwn yn cael ei theilwra i anghenion unigol, gan helpu cyfranogwyr i feithrin hyder, dysgu sgiliau newydd a mwynhau creu rhywbeth unigryw mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar.