Mae gan Fro Morgannwg amrywiaeth gyffrous o gelfyddydau. Mae’r rhain yn cynnwys gwyliau cerddoriaeth fyw, digwyddiadau dawns, detholiad o orielau celf a phrosiectau artistiaid preswyl.
Mae Swyddog Datblygu’r Celfyddydau Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau. Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau celf yn y Fro a’r cylch.
Mae Oriel Gelf Ganolog, sydd wedi’i lleoli yng nghalon y sir, yn ofod arddangos celf mawreddog y Fro. Mae’r gofod arddangos yn lle gwych i arddangos, ymweld ag ef ac edmygu celf.
Mae’r oriel yn hygyrch i bawb ac mae mynediad i’r arddangosfeydd yn rhad ac am ddim.
Oriau agor Oriel Gelf Ganolog:
Dydd Llun – Dydd Gwener: 9:30yb tan 4:30yp Dydd Sadwrn: 9:30yb tan 3:30yp Croeso i bawb