Bob dydd, rydym yn darparu cymorth hanfodol i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr drwy ein hystod eang o wasanaethau a phartneriaethau yng Nghymru. Mae ein pwrpas yn glir – newid plentyndod a newid bywydau, fel bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ddiogel, yn hapus, yn iach ac yn obeithiol.
Ers 150 o flynyddoedd a mwy, rydym wedi bod yma i’r plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf – gan ddod â chariad, gofal a gobaith i’w bywydau a rhoi lle iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn.