Mae dynion yn aml yn cael eu haddysgu i fod yn gryf a byth yn dangos emosiwn nac yn agored i niwed. Ond weithiau, gall bywyd fod yn llethol, ac mae angen rhywun i siarad ag ef. Os ydych yn cael trafferth gyda straen, gorbryder, iselder, neu unrhyw fater iechyd meddwl arall, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae Brawd yn grŵp cymorth yma i gynnig lle diogel a chyfrinachol i chi rannu eich teimladau, eich meddyliau, a’ch profiadau gyda dynion eraill.
Cynhelir ein cyfarfodydd unwaith yr wythnos, gyda chyfarfodydd ad-hoc rhyngddynt, nid oes angen atgyfeirio neu ddiagnosis – dim ond y parodrwydd i ofalu am eich iechyd meddwl. Mae ceisio cymorth yn arwydd o gryfder, nid gwendid.
Rydym yma i'ch cefnogi ar eich taith i les meddwl ar ddydd Llun a ddydd iau rhwng 6pm a 7:30pm yn Nhŷ Canna, 40 Heol y Farchnad. Caerdydd.
Mae gennym hefyd grŵp cerdd, Grŵp cerdded a mwy!