Mae Bridges Plus yn darparu hyfforddiant a mentora i bobl nad ydynt yn gweithio ac yn byw ym Mlaenau Gwent. Rydym yn cefnogi pobl i ddod o hyd i waith ac i gael mynediad at hyfforddiant am ddim (wyneb yn wyneb ac ar-lein) a chyfleoedd gwirfoddoli.
Rydym yn cynnig cymorth a chefnogaeth am ddim i feithrin hyder a sgiliau trwy:
- Cyrsiau Hyfforddi Am Ddim
- Profiad Gwaith Gwirfoddol
- Cymwysterau
- Sgiliau Cyflogadwyedd
- Chwilio am Swydd a chymorth gyda Chredyd Cynhwysol
- Cefnogaeth Un-i-un
- Meithrin hyder
Mae cymryd rhan ym mhrosiect Bridges Plus yn gwbl wirfoddol ac ni fydd yn effeithio ar fudd-daliadau.