Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Dyfodol Disglair

Darparwyd gan
Dyfodol Disglair

Mae gennym ystod eang o weithgareddau i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau i blant, pobl ifanc, teuluoedd, yr henoed, y rheiny ag anableddau, y rheiny sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol a’r rheiny sy’n wynebu sawl math o dlodi.

Rydym yn rheoli cyfleuster cymunedol cynaliadwy yng nghanol y Rhyl, a ddatblygwyd o dafarn adfeiliedig, mae ein cyfleuster yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyno Men's Shed, Women's Shed, Youth Shed, Kidz Shed, Parent & Toddler Group, Gardening Group, Futures Community Cafe, Caffi Trwsio, Clwb Brecwast, Clwb Teulu a sesiynau Hŷn.

Rydym yn gweithio'n barhaus i wella ein gweithgareddau i sicrhau ein bod yn parhau i'r diben i ddiwallu anghenion ein cymunedau, nawr ac yn y dyfodol.