Mae C3SC (Cyngor Trydydd Sector Caerdydd) yn sefydliad aelodaeth sy’n cefnogi’r trydydd sector yng Nghaerdydd, megis elusennau, mentrau cymdeithasol, a grwpiau gwirfoddoli. Mae C3SC yn eiriol dros fuddiannau’r trydydd sector, yn darparu cymorth ymarferol, yn meithrin rhwydweithio a chydweithio ac yn hyrwyddo gwirfoddoli. Mae Canolfan Gwirfoddoli Caerdydd @C3SC yn gweithredu fel canolbwynt lle gall unrhyw un yng Nghaerdydd ddod i wybod am gyfleoedd gwirfoddoli ac mae sefydliadau’n cael cymorth i sefydlu cynlluniau gwirfoddoli a recriwtio gwirfoddolwyr.