Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Cor Meibion Caernarfon

Lleoliad

Visitable Address

Victoria Dock Caernarfon LL55 1SR

Cyfeiriad post

Victoria Dock Caernarfon

Cyswllt

01286675371

Ni yw un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru. Dros y blynyddoedd, rydym wedi perfformio yn neuaddau cyngerdd gorau Prydain, gan gynnwys y Royal Albert Hall, Birmingham Symphony Hall a St David’s Hall Caerdydd. Rydym yn falch o fod wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru naw gwaith. Rydym wedi teithio a pherfformio’n eang yn y DU, Iwerddon, tir mawr Ewrop a Gogledd America.

Mae ein repertoire yn amrywiol ac yn boblogaidd. Rydym yn canu mewn llawer o ieithoedd, ond yn bennaf yn Gymraeg a Saesneg. Ein Noddwr yw’r bas-bariton byd enwog, Bryn Terfel.
Mae ein Côr yn ymarfer bob nos Fawrth ac eithrio mis Awst am 7.30pm yn Galeri, Caernarfon. Yn aml mae llawer o ymwelwyr yn bresennol. Os hoffech ddod i'n hymarfer neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r côr, cysylltwch â ni neu dewch i'r ymarfer. Byddwch yn cael croeso cynnes