Fi yw Cydlynydd Cymorth i Ofalwyr yr awdurdodau lleol, lle rwy’n cefnogi gofalwyr di-dâl yn ardal Merthyr Tudful. Rwy’n gweithio gyda gofalwyr a chydweithwyr i wella canlyniadau i ofalwyr mewn ffordd sy’n sicrhau adnabyddiaeth gynnar ac yn hyrwyddo manteision cefnogi gofalwyr i gynnal eu rôl ofalu. Rwyf hefyd yn gweithio gyda gofalwyr i ddatblygu sgyrsiau gyda’r gofalwr unigol, gan archwilio eu hanghenion a’r canlyniadau dymunol. Gweithio ar y cyd i nodi’r cymorth a/neu’r gwasanaethau sy’n briodol ac yn ymatebol i’w hanghenion a’u galluogi i barhau mor hir â phosibl yn eu rôl ofalu. Agwedd arall ar fy rôl yw, hyrwyddo llais gofalwyr a sicrhau eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt am faterion sy'n bwysig iddynt.