Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

CAMFA 18+ (Cwnsela a Chymell ar gyfer Caethiwed)

Mae CAMFA yn darparu therapi i’r rhai hynny sydd angen ymyriadau camddefnyddio sylweddau arbenigol sydd yn cynnwys:

Cwnsela
Cyfweld ysgogiadol
Ymyriadau Cryno
Therapi Ymddygiadol Gwybyddol
Mynediad at grwpiau adferiad

Sesiynau Therapiwtig:

Rydym yn cynnig hyd at 12 sesiwn sydd yn medru cael eu gwneud wyneb i wyneb, ar y ffôn neu ar-lein.
Mae ein holl therapyddion yn gwnselwyr cymwys gyda hyfforddiant ychwanegol ym maes camddefnyddio sylweddau ac adferiad.