Canolfan a Theatr Soar

Lleoliad

Cyfeiriad post

Pontmorlais Merthyr Tudful CF47 8UB

Menter Iaith Merthyr Tudful sydd yn gweithredu Canolfan a Theatr Soar yng Nghanol Tref Merthyr Tudful. Mae’r sefydliad yn ganolbwynt i ddatblygiad y Gymraeg yn yr ardal.

Mae nifer o sefydliadau sydd yn gwasanaethu’r ardal wedi ymgartrefu yma yng Nghanolfan Soar sef Urdd Gobaith Cymru, Dysgu Cymraeg Morgannwg a Chylch Meithrin Soar. Mae’r Ganolfan hefyd yn lleoliad i gwmnïau Cymraeg ei hiaith, sef Siop Lyfrau’r Enfys, a Chaffi Soar.

Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau mewn partneriaeth â sefydliadau sydd yn ysgogi cyfranogiad. Cyn cyfnod Covid-19, croesawyd tua 42,000 o bobl o bob oedran a chefndir yn flynyddol.

Wrth wraidd ein sefydliad mae darparu amgylchfyd sy'n adeiladu hunan hyder a hunan barch ac yn ehangu gorwelion ein cymuned. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth a llesiant ein cymuned wrth wraidd ein gwaith bob dydd.

Amseroedd agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 9am - 4pm Dydd Sadwrn 9am - 3pm Diwrnodau perfformiad a digwyddiadau

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig