Wedi ei ariannu gan Gyngor Dinas Caerdydd, mae’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd yn anelu i wella llesiant oedolion sy’n ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu anwyliaid sydd wedi eu heffeithio gan salwch meddwl. Yn gweithio ar draws Caerdydd, anelai’r gwasanaeth i gynyddu annibyniaeth ac i rymuso gofalwyr di-dâl drwy gynnig rhaglen 12 wythnos o gefnogaeth un i un, ochr yn ochr gyda grwpiau cefnogaeth cymheriaid misol. Anelai ein gwasanaeth i gefnogi’r gofalwyr di-dâl yn ein cymdeithas i wella eu llesiant. Mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol gan ei fod yn helpu gofalwyr i reoli eu rolau ac i gynnal eu hiechyd meddyliol ac emosiynol.