Mae Grŵp Afonydd Caerdydd yn Sefydliad Cymunedol sy'n ceisio gwella glendid yr afonydd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n byw yng Nghaerdydd, ac ymwelwyr, werthfawrogi harddwch y ddinas.
Mae gwaith craidd y grŵp yn cynnwys:-
• Casglu sbwriel,
• Cael gwared ar sbwriel o'r afonydd, nentydd, pyllau a chyrsiau dŵr eraill,
• Rheoli cynefinoedd, megis lleihau rhywogaethau ymledol,
• Gwella mynediad ac amwynder,
• Lobïo cyrff perthnasol i wella ansawdd yr amgylchedd yn Ne Cymru,
• Clirio rhwystrau a gwella llif dŵr.