Mae Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd yn ceisio rhoi hwb i iechyd a lles cyfranogwyr drwy eu helpu i fod yn fwy actif ac yn cymryd rhan yn eu cymuned. Rydym yn cynnig mentora byrdymor, un-i-un gan ein Mentoriaid Iechyd a Lles ein hunain i'r rhai sydd ei angen, ac yn eu helpu i gael gafael ar y cymorth cywir sydd ei angen arnynt.
Rydym yn helpu cyfranogwyr i gael gafael ar gyngor, gweithgareddau, digwyddiadau,cyfleoedd hyfforddi ac unrhyw gymorth arall i helpu i fodloni eu hanghenion lles. Gall y gweithgareddau fod pa bynnag apeliadau ac o ddiddordebau sydd gan y cyfranogwyr, fel clybiau
cinio, clybiau cymdeithasol, sesiynau digidol, clybiau garddio, grwpiau canu, pigo sbwriel, ioga, myfyrdod, gwirfoddoli, grwpiau coginio iach a
llawer mwy, gan helpu pobl i wneud ffrindiau newydd.
Ar ôl i Fentor Iechyd a Lles gael ei neilltuo, mae cyfnod o gefnogaeth am hyd at 13 wythnos ar gael i'r sawl sy'n cymryd rhan a'u mentor weithio ar yr hyn sydd ei angen i wella eu lles.