Gwella Cartrefi, Newid Bywydau
Cyngor a chymorth i drwsio neu addasu eu cartrefi
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn neu bobl ag anableddau sydd angen gwneud atgyweiriadau, adnewyddu neu addasiadau i'w cartref. Rydym yn gwneud hyn i helpu pobl i barhau i fyw gartref yn annibynnol, yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn saff.