Mae'r sesiynau yn rhithiol ac yn cael eu cynnal ar yr 2il ddydd Mawrth o bob mis o 3:45pm - 4:45pm cysylltwch am ragor o fanylion.
Cymdeithas Alzheimer yw prif elusen cymorth ac ymchwil y DU ar gyfer pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae’r grŵp yn rhoi’r cyfle i bobl sy’n gofalu am berson â dementia ar hyn o bryd i gwrdd ag eraill sy’n deall rhywfaint o’r hyn maen nhw’n mynd drwyddo.
Mae’r sesiynau’n cael eu rhedeg gan hwylusydd, ac mae’r sesiynau’n cynnig cyfle i ofyn cwestiynau, cael gwybodaeth a rhannu profiadau mewn amgylchedd cyfeillgar, diogel a chefnogol.