1 o bob 7 o bobl yn y gweithle yw’n cyfuno gwaith gyda gofalu am rywun. Mae llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod ble i droi am gymorth.Fel Siaradwr Gweithle, rwyt ti'n gyswllt hanfodol rhwng Gofalwyr Cymru a dy gydweithwyr. Fe wnei ledaenu’r geiriau am ofalu a chodi ymwybyddiaeth o Gofalwyr Cymru yn dy weithle.Drwy hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd, byddi’n gallu cyfeirio’r rheini sy’n chwilio am gefnogaeth at y gwasanaethau a’r wybodaeth arbenigol sydd ar gael.O fewn dy weithle, byddi’n cyfeirio cydweithwyr at wybodaeth, cyngor a chyflenwadau perthnasol fel y gallant ddod o hyd i'r cymorth mwyaf priodol. Fel 'siaradwr', byddi’n cydweithio gyda gydweithwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r heriau y gall gofalu di-dâl eu rhoi i'r rhai yn dy le gwaith.Mae gwirfoddoli fel Siaradwr Gweithle yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr newydd, datblygu dy sgiliau trefnu, dod yn greadigol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr.