Mae ein darpariaeth mynediad agored yn rhedeg bedwar diwrnod yr wythnos o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn i blant 11+ oed. Ar foreau Sadwrn mae gennym grŵp Plant Iau i blant 8 i 11 oed a phob nos Lun rydym yn cynnal DrMz LGBTQ+. Mae'n rhad ac am ddim i ddod yn aelod a gall pobl ifanc gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau gan gynnwys coginio, garddio, prosiectau digidol a gwirfoddoli. Yn ogystal â'r rhain, rydym yn cyflwyno llawer o weithgareddau a gweithdai wedi'u cynllunio i annog creadigrwydd, sgiliau bywyd ac iechyd a lles.
Mae gennym hefyd raglenni gwyliau ysgol o weithdai, gweithgareddau, teithiau a phrofiadau newydd.