Cyfleusterau
- Disabled access
- Disabled toilet
- Internet (wifi)
- Toilets
Mae CAVS yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i’r sector gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin, ac yn cynnig aelodaeth i grwpiau sy’n dymuno ymuno â’r gymdeithas.
Mae ein tîm Tyfu Sefydliadau Trydydd Sector yn helpu i sefydlu a rhedeg grwpiau yn gyfreithiol, yn helpu i ddod o hyd i arian prosiect perthnasol a gwneud cais amdano, yn hwyluso cynrychiolaeth y sector gwirfoddol ar fforymau cynllunio amrywiol ac yn helpu i ddarparu mecanweithiau i sicrhau gweithio partneriaeth effeithiol rhwng sefydliadau.
Mae Canolfan Gwirfoddoli CAVS yn cefnogi gwaith gwirfoddol, yn anelu at godi safonau ar gyfer gwirfoddolwyr ac yn hyrwyddo arfer da, yn helpu grwpiau i ddatblygu polisïau ac yn paru cyfleoedd gwirfoddoli lleol gyda darpar wirfoddolwyr. Mae CAVS hefyd yn darparu llawer o wasanaethau ymarferol gan gynnwys gwasanaethau ysgrifenyddol, benthyca offer a llogi ystafell gyfarfod yn ein swyddfa yng Nghaerfyrddin. Am fanylion llawn ein holl wasanaethau ewch i'n gwefan www.cavs.org.uk
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9 - 5
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig