Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Dechrau'n Deg Ceredigion - Cwrs Iaith a Chwarae

Mae’r sesiynau’n annog datblygiad iaith plant trwy chwarae, mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Mae’r sesiynau hefyd yn gyfle i rieni a phlant gymdeithasu a rhannu sgiliau a syniadau newydd.

Mae'r sesiynau'n cynnwys materion megis:-
• Chwarae blêr
• Darllen a chanu
• Basgedi trysor
• Dysgu sgiliau iaith newydd
• Rhowch gyfle i blant archwilio'n rhydd
• Datblygu sgiliau corfforol

Yn y sesiynau hyn mae plant yn cael y cyfle i ddysgu, ymarfer eu hannibyniaeth, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl. Mae hwn yn gwrs gwych i'w fynychu cyn i'ch plentyn ddechrau meithrinfa.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r manylion isod neu trowch at ein tudalen ar Facebook.