A hoffech chi gael help i fanteisio wasanaethau cymdeithasol, neu help i esbonio i'ch gweithiwr cymdeithasol y pethau sy'n bwysig i chi?
Os ydych chi'n teimlo y gallai fod yn anodd i chi ddweud yr hyn yr hoffech ei ddweud o ran eich cymorth, mae gwasanaeth ar gael sy'n gallu eich cynorthwyo gyda hynny.
Ei enw yw'r gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol annibynnol. Yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, enw'r gwasanaeth yw gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol annibynnol y dair sir (3CEPA).
Mae'r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim ac efallai y bydd gennych chi hawl gyfreithiol i gael y cymorth hwn.
Fe'i ddarparir gan bobl sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu pobl i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac i gael mwy o reolaeth dros y ffordd y caiff eu gwasanaethau cymorth eu cynllunio a'u darparu.
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig