Mae Cymunedau am Waith Wrecsam yn dîm o staff talentog a brwdfrydig sydd yn gallu cefnogi pobl yn byw yn sir Wrecsam trwy gynnig mentora un i un yn bwrpasol ar gyfer anghenion unigol.
Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor yn ymwneud â
•Sgiliau Hanfodol
•Addysg a Hyfforddiant
•Sgiliau Digidol Cynigion a thechnegau cyfweliad
•Cymorth gyda CV a ffurflen gais
•Cymhelliant a Hyder
•Cyngor ar fod yn Hunangyflogedig
•Gwirfoddoli/Lleoliadau Gwaith
•Cyflogaeth am dâl
Os ydych heb waith ar hyn o bryd ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith neu eich bod yn ystyried newid gyrfa yna mae ein tîm cyfeillgar ar gael i'ch helpu i ddilyn y trywydd cywir ar gyfer eich swydd ddelfrydol.
Rhowch ganiad i ni am sgwrs anffurfiol neu i drafod dod i mewn am apwyntiad, mae 'na baned yn disgwyl amdanoch.