Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC)

Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC) yw’r corff ymbarél a sefydlwyd i ddatblygu a hyrwyddo gweithredu cymunedol a gwirfoddol yn sir Conwy. Mae'n eistedd gyda chorff cenedlaethol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac maen yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).

Datganiad Cenhadaeth
Nod CCGC yw cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Yn arbennig hyrwyddo addysg, amddiffyn iechyd a helpu gyda thlodi, trallod a salwch.

Mae CCGC yn dod â chynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol a statudol ynghyd i weithio mewn partneriaeth er lles trigolion y sir.

Amcanion
Cefnogi datblygu prosiectau newydd sy’n gwella gweithredu cymunedol a gwirfoddol.

Bod yn sianel effeithiol rhwng asiantaethau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yng Nghonwy.

Amseroedd agor

Monday - Friday: 9am - 5pm