Gwasanaeth Adfer ar ôl Strôc
Cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth i chi ar ôl cael strôc.
Os ydych chi wedi cael strôc, rydyn ni yma i helpu. Bydd un o’n Cydlynwyr Cymorth Strôc yn gweithio gyda chi i nodi’r hyn sydd bwysicaf i chi fel y gallwn eich cefnogi orau trwy gydol eich adferiad.
Rydyn ni’n cynnig:
• Adolygiad wedi’i bersonoli o’r hyn sy’n bwysig i chi.
• Rhywun i siarad ag ef sy’n deall.
• Awgrymiadau i gefnogi eich adferiad.
• Gwybodaeth am strôc a chymorth i gael mynediad at wasanaethau lleol eraill.
• Gwybodaeth am sut i leihau eich risg o strôc.
• Y cyfle i rannu profiadau ag eraill mewn sefyllfa debyg.
• Cefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.
• Ymweliadau ysbyty ac yn y cartref.