Mae Cyfle Cymru yn brosiect sy’n anelu at gefnogi pobl sy’n ddi-waith ac yn dioddef o iechyd meddwl gwael, camddefnyddio sylweddau neu ddiweithdra tymor hir a’n nod yw eu helpu i ail ymgysylltu â chymdeithas ac yn y pen draw i gael gwaith. Gwnawn hyn trwy gefnogaeth un i un gyda mentor cymheiriaid a fydd yn cael ei neilltuo ar ôl ymuno â'r prosiect. Byddwn yn adeiladu cynllun gweithredu gyda chi i weld sut fyddai orau i symud ymlaen ac i nodi'n glir y nodau yr hoffech eu cyflawni. Bydd ein mentoriaid cymheiriaid wedi cael rhywfaint o brofiad byw ac yn gyfarwydd â nifer o wasanaethau a all helpu. Rydym yn cynnig gweithgareddau a diwrnodau allan yn ogystal â gwirfoddoli i’ch cadw’n brysur yn ystod yr wythnos. Mae na cyrsiau fel cysgu’n well a bwyta’n iach yn ogystal â rhai cyrsiau achrededig a fydd yn helpu gyda’ch datblygiad personol. Unwaith y byddwch yn teimlo'n barod am gwaith byddwch yn cael eich trosglwyddo i swyddog cyswllt cyflogaeth all wedyn geisio'ch helpu chdi i mewn i gwaith