Mae CYNNAL yn wasanaeth cwnsela cyfrinachol ar gyfer clerigion, gweinidogion crefydd, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd. Mae ganddo canolfannau yng Nghaerdydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth, ond mae hefyd ar gael ar-lein drwy Zoom. Mae ein gwasanaeth yn wahanol i wasanaethau cwnsela eraill gan ei fod yn cydnabod pwysigrwydd ysbrydolrwydd ac yn darparu i gwsmeriaid penodol. Mae CYNNAL yn delio â phob math o broblemau ac yn cymryd ymagwedd gyfannol sy’n mynd i’r afael â rhyngweithio meddwl, corff ac enaid. Mae’r gwasanaeth yn cydnabod dimensiwn ysbrydol bywyd ac, os yw’n briodol, mae’n cynnig cyfeiriadau at arweiniad ysbrydol pellach.