Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Fideos dementia i ofalwyr o PocketMedic

Mae ffilmiau PocketMedic yn cefnogi pobl i fyw'n dda gyda chyflyrau cronig. Mae'r gyfres hon o ddeg ffilm wedi'u gwneud i gefnogi gofalwyr i ddeall mwy am ddementia. Mae Clive a Pauline Jenkins yn byw gyda Chlefyd Alzheimer ac yn cytuno i weithio gyda'u merch Kimberley i rannu eu stori. Pwrpas y gyfres yw rhoi cipolwg i ofalwyr a theuluoedd ar brofiad byw o ddementia a magu hyder i gefnogi eraill i fyw cystal â phosibl gyda'r cyflwr.